Gwybodaeth amdanom ni

Rhagoriaeth Ymchwil

Bydd Canolfan Ymchwil Cymru yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer ymchwil ragorol ar Gymru yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau a meysydd cysylltiedig ym Mhrifysgol Bangor a'i gwneud yn fwy gweladwy yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Themâu Ymchwil

  • Gorffennol, treftadaeth a hunaniaeth Cymru
  • Llenyddiaethau Cymru
  • Cymru Perfformio
  • Cynllunio'r iaith Gymraeg, polisi ac amlddiwylliannaeth

Adnoddau Eithriadol

Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Bangor yn cynnwys dogfennau, cofnodion ystadau, llyfrau prin a deunydd arall sy'n ymwneud â Chymru o'r cyfnod canoloesol ymlaen.

Mae Bangor mewn ardal eithriadol o gyfoethog o ran henebion archeolegol a hanesyddol yn amrywio o feddrodau Neolithig i aneddiadau Oes yr Haearn, caerau Rhufeinig, cestyll canoloesol a thirweddau chwareli llechi diwydiannol.

Mae Canolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg y Brifysgol yn adnodd cyfoethog ar gyfer amrywiaeth eang o wasanaethau ac ymchwil sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg.

Mae Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, yn lleoliad delfrydol ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau a digwyddiadau eraill.

Myfyrwyr Ôl-radd

Mae oddeutu hanner cant o fyfyrwyr ymchwil ôl-radd ar hyn o bryd yn gweithio ar Gymru yn  Gymraeg a Saesneg ar draws y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ym maes polisi iaith a sawl rhaglen meistr. Mae Canolfan Ymchwil Cymru yn gweithredu fel fforwm i fyfyrwyr ôl-radd ac yn cydlynu digwyddiadau fel cynadleddau ôl-radd.

Estyn allan

Bydd Canolfan Ymchwil Cymru yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi a datblygu'r astudiaeth o Gymru yn ein cymuned leol, ar draws Cymru a thu hwnt.