Llety’r Brifysgol
Cliciwch ar y ddolen isod i archebu ystafell
Mae ein hystafelloedd gwely i gyd yn ystafelloedd sengl en-suite, gyda chawod, ac ni chaniateir ysmygu ynddynt. Mae pob ystafell wedi cael safon ansawdd Llety Campws 4* gan Croeso Cymru. Categori yw hwn a ddatblygwyd i'r prifysgolion a cholegau hynny a all gynnig llety i ymwelwyr.
Mae'r ystafelloedd ar Safle Ffriddoedd, sef y prif gampws preswyl i fyfyrwyr y brifysgol. Cynllun y neuaddau yw wyth o ystafelloedd gwely unigol mewn 'fflat' diogel. Caiff pob ystafell ddefnyddio cegin/lle bwyta'r fflat, sy'n cynnwys oergell, rhewgell, stôf, popty microdon, tostiwr a thegell.
Cyrraedd a Gadael
***Sylwch fod gan y dderbynfa yn Adeilad Idwal arwyddion i gyfeirio pobl at y Swyddfa Neuaddau ***
Cyrraedd - 2pm - 8pm
Cewch gasglu’r allwedd i’ch ystafell o'r Swyddfa Neuaddau ar ôl 2pm (Rhif 15 ar y map). Adeilad Idwal, Bangor LL57 2GP
Cyrraedd yn Hwyr (ar ôl 8pm)
Bydd swyddfa'r Neuaddau'n cau am 8pm. Os byddwch chi'n cyrraedd yn hwyrach, rhowch wybod cyn 5pm i’r Swyddfa Gynadleddau ar 01248 38 8088 neu cynadleddau@bangor.ac.uk.
Gadael - 9.30am
Dylid dychwelyd eich allweddi i’r swyddfa Neuaddau erbyn 9:30am ar ddiwrnod eich ymadawiad; fel arall, cewch adael eich allwedd yn y bocs allweddi y tu allan i'r Swyddfa Neuaddau. Codir tâl o £20.00 os collir allweddi.
Trafferthion wrth archebu eich ystafell
Os cewch unrhyw drafferth wrth geisio archebu, e-bostiwch aros@bangor.ac.uk neu ffonio aelod o'r Tîm Cynadleddau ar +44 (0) 1248 388088 (Llun - Gwener 9am - 5pm).