Cynhadledd: Lleisiau - Wedi'i ohirio

Digwyddiad wedi'i ohirio: Mae'n ddrwg gennym ddweud bod y digwyddiad yma wedi'i ohirio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a siom y gallai hyn ei achosi ond mae'r Brifysgol wedi penderfynu gohirio nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau. Rydym yn monitro'r sefyllfa mewn perthynas â'r pandemig Coronafirws (Covid-19) yn ofalus, a'n blaenoriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn yw lles myfyrwyr, staff, ymwelwyr a'r gymuned leol. 

2 - 3 Mehefin 2020

Mae Canolfan Ymchwil Cymru yn dwyn ynghyd pawb ym Mhrifysgol Bangor sy’n gweithio ar Gymru yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac ym maes polisi iaith.

Cynhelir trydedd cynhadledd ôl-raddedig Canolfan Ymchwil Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar Fehefin 2–3 2020 i arddangos ymchwil sy’n ymwneud â Chymru gan fyfyrwyr ôl-raddedig o bob lefel. Y thema eleni yw Lleisiau.

Ar ddechrau degawd newydd rydym yn wynebu cwestiynau sylweddol o ran gwleidyddiaeth, diwylliant a hunaniaeth Gymreig. Mae gwaddol traddodiadau’r gorffennol yn plethu gyda lleisiau a syniadau newydd i greu naratif sy’n adlewyrchu amrywiaeth y profiad Cymraeg a Chymreig. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ystyried lleisiau o bob math, boed yn atgyfodi’r gorffennol neu’n trafod ein presennol a’n dyfodol.

Galwad am Bapurau

Croesewir papurau gan fyfyrwyr ôl-raddedig o unrhyw faes, gan gynnwys archeoleg, hanes, gwleidyddiaeth, astudiaethau llenyddol, ieithyddiaeth, cerddoriaeth, a’r gwyddorau cymdeithasol ar unrhyw agwedd o’r thema hon.

Dylai’r cyflwyniadau bara tua 20 munud a gellir eu traddodi drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno crynodeb 250 gair yn ogystal â nodyn bywgraffyddol byr yn Gymraeg neu Saesneg mewn e-bost at rcwconference@bangor.ac.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 31/03/2020.

Cysylltu â ni

Am mwy o wybodaeth, ebostiwch: rcwconference@bangor.ac.uk

Cefnogaeth gan: Y Ganolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor