Croeso

Mae Canolfan Ymchwil Cymru yn dwyn ynghyd pawb ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio ar Gymru yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac mewn maes polisi iaith.

Mae deall diwylliannau, ieithoedd a hunaniaethau Cymru, eu tarddiad, eu datblygiad a sut y maent yn cael eu gweld heddiw yn hanfodol ar gyfer dyfodol gwlad fechan. Mae gan Brifysgol Bangor gymuned ymchwil hirsefydlog a bywiog sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol yn gweithio ar Gymru. Mae ein hymchwil yn cynnwys iaith a llenyddiaeth yn Gymraeg a Saesneg, hanes ac archaeoleg Cymru, y celfyddydau creadigol, cerddoriaeth a pherfformio yn ogystal â dwyieithrwydd a pholisi iaith. 

Bydd Canolfan Ymchwil Cymru yn meithrin, cydlynu a hyrwyddo ymchwil ar Gymru yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau a maes polisi iaith ym Mhrifysgol Bangor, yn darparu fforwm ar gyfer ymchwil traws-ddisgyblaethol ar Gymru a, thrwy amrywiaeth o brojectau a digwyddiadau, yn ymestyn allan i'r gymuned yn lleol, ar draws Cymru ac yn fyd-eang.